Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Ionawr 2024
Amser:
14.00 -
14.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13676
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais am ddadl ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom nad oedd cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r deisebydd wedi'i gynnal ac na chafwyd unrhyw gyswllt. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi siom y Pwyllgor ac yn gofyn am gysylltu â'r deisebydd cyn gynted â phosibl.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru a chroesawodd yr ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid sy'n dod i ben ar 1 Mawrth.
Cytunodd yr Aelodau i gadw golwg ar y deisebau nes bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru a chroesawodd yr ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid sy'n dod i ben ar 1 Mawrth.
Cytunodd yr Aelodau i gadw golwg ar y deisebau nes bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod amgylchiadau wedi newid ers pasio Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ac nad oes dyddiad dod i ben bellach ar gyfer Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Nododd yr Aelodau hefyd fod y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Yng ngoleuni
hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebwyr am eu gwaith ar y mater hwn a’u diddordeb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd mai dyma'r ail ddeiseb sy'n codi pryder am ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o dorri coed a diogelu gwiwerod coch.
Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor am 12 mis a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid sy'n ymwneud â chadwraeth wiwerod coch yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi ysgrifennu at Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghylch y mater hwn sy'n effeithio ar ei etholaeth.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y newyddion cadarnhaol nad yw gorsafoedd y Rhyl a Glannau Dyfrdwy wedi cael eu hisraddio yn dilyn yr ymgynghoriad, a disgwylir i’r lefel bresennol o ddarpariaeth barhau. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd a phawb a gefnogodd yr ymgyrch.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, er ei fod wedi casglu'r nifer gofynnol o lofnodion i ystyried cyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn y Senedd, nid oes unrhyw fanteision clir i wneud hynny, nac i gymryd unrhyw gamau pellach o ran y ddeiseb. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor
Cafodd y papurau eu nodi.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.